Refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig, 2011

Cynhaliwyd refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig ar 5 Mai 2011 lle bwrwyd pleidlais dros neu yn erbyn newid y dull presennol o bleidleisio. Ar yr un pryd ag etholiad y Cynulliad 2011 cafwyd pleidlais a ddylai Aelodau Seneddol Tŷ'r Cyffredin gael eu hethol trwy system bleidleisio y bleidlais amgen (AV), neu i aros gyda system y cyntaf i'r felin (FPTP).

Cytunwyd ar y refferendwm fel rhan o Gytundeb Clymblaid y Ceidwadwyr - Democratiaid Rhyddfrydol a luniwyd ar ôl etholiad cyffredinol 2010. Cyflwynwyd y syniad o refferendwm gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf 2010 a chafodd ei ddyrchafu ar 16 Chwefror 2011 fel rhan o'r Ddeddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011. Dyma oedd yr ail dro yn unig i refferendwm gael ei chynnal yn holl wledydd y Deyrnas Unedig yn hanes gwledydd Prydain, gyda'r tro cyntaf yn cael ei chynnal yn refferendwm y Gymuned Ewropeaidd ym 1975. Fodd bynnag, dyma oedd y refferendwm cenedlaethol cyntaf nad oedd yn ymgynghorol yn unig; roedd yn refferendwm ôl-ddeddfwriaethol, yn gyfreithiol ar ran y llywodraeth, beth bynnag fo'r canlyniad.[1]

  1. "Referendum on voting system goes ahead after Lords vote". BBC News. 17 February 2011. Cyrchwyd 17 February 2011.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne